CYFRES FFEITHIAU SYLFAENOLY FFYDD BAH�'�Mae sawl miliwn o bobl yn y byd yn dilyn crefydd y Ffydd Bah�'�, a'r rheiny'n dod o bob gwlad a phob cefndir. Mae'r bobl hyn i gyd yn credu yn undod y ddynoliaeth - bod pob person yn bwysig, ac y dylai'r byd fod yn un wlad a redir er lles pawb.
CYFLWR Y BYDMae pobl Bah�'� yn poeni'n fawr am gyflwr ein byd. Maent yn teimlo bod angen i ni gael agwedd fwy ysbrydol, llai hunanol tuag at y byd hwn a bod angen i ni fyw mewn harmoni a'n hamgylchedd. Lle bynnag y bydd pobl Bah�'� yn byw, byddant yn ceisio cynorthwyo pobl ym mha fodd bynnag y gallant. Os ydyn nhw'n byw mewn pentref yn y Trydydd Byd, byddant yn trefnu prosiect ysgol, ffermio neu iechyd a fydd o fudd i bawb. Ym mhob gwlad mae sawl ffordd y gall y Bah�'� fod yn ddefnyddiol.Yn anad dim, mae pobl Bah�'� yn gwneud popeth yn eu gallu i hyrwyddo heddwch yn y byd - trwy ymuno a grwpiau eraill a'u cefnogi a chynnig eu syniadau hwy eu hunain ar gyfer cynhadledd heddwch ryngwladol. Dim ond pan fydd gennych heddwch a chydweithrediad y bydd modd datrys nifer fawr o broblemau'r byd. BYWYD BOB DYDDBob dydd, dylai dilynwyr y ffydd Bah�'� droi at Dduw mewn gweddi. Bob bore a bob gyda'r nos, dylent ddarllen ysgrythu- rau Bah�'�, myfyrio arnynt a cheisio'u rhoi ar waith.Mae nifer o lyfrau'n cynnwys ysgrythur Bah�'� ond dyma ychydig o enghreifftiau ohonynt: " Trowch eich meddyliau i gyd i gyfeiriad dod a llawenydd i galonnau." "Ymdrechwch fel bo'ch gweithredoedd o ddydd i ddydd yn weddiau hardd" "Peidiwch ag ystyried neb yn ddieithryn; yn hytrach, ystyriwch bob dyn yn gyfaill." "Paid ag anadlu pechodau eraill a thithau'n bechadur dy hun." "Meddylia bob amser am roi gwasanaeth i bob aelod o'r hil ddynol." Efallai ei bod hi'n anodd byw yn ol dys- geidiaeth Bah�'� ond ni allwn ond gwneud ein gorau. Trwy gyfrwng gweddi, byddwn yn dar- ganfod beth y gallwn ei wneud i wella'n hunain a gwasanaethu'n cyd-ddynion a dod o hyd i'r nerth i wneud hynny. Cred y Bah�'� mai ein diben yn y bywyd hwn yw dysgu a datblygu fel ein bod yn nes at Dduw pan symudwn ymlaen i'r byd nesaf. BYWYD Y GYMUNED BAH�'�Bydd pobl Bah�'� yn cyfarfod yn aml i weddio, i drafod materion lleol, i fwyn- hau cwmni ei gilydd ac i ddod i adnabod ei gilydd. Gelwir hyn yn "wledd". Lle na fydd ond ychydig o bobl y Ffydd, byddant yn cyfarfod yng nghartref rhywun. Lle bydd pentref cyfan yn bobl Bah�'�, byddant yn codi canolfan. Mewn rhai mannau yn y byd, mae Tai Addoli mawr sy'n agored i bawb beth bynnag y bo'u crefydd.Bydd pobl Bah�'� yn aml yn cynnal cyfarfodydd bychain yn eu cartrefi i bobl sy'n dymuno dod i siarad a dysgu mwy am Grefydd Bah�'�. Fel arfer, gelwir y rhain yn "aelwydydd". Ym mhob ardal leol, bydd y Bah�'� yn ethol cynulliad o naw o bobl sy'n gwneud yn siwr bod popeth yn mynd rhagddo'n llyfn a bod pawb yn hapus. Mae gan bob gwlad gynulliad cenedlaethol a cheir un corff byd eang hefyd.
Y DYFODOLMae pobl Bah�'� yn credu y bydd llywodraeth fyd-eang ryw ddydd a fydd yn sicrhau bod pob gwlad yn cael ei thrin yn deg a bod y blaned yn wynebu'r dyfodol mewn cyflwr iach.Ni fydd gwahaniaethau mawr bryd hynny rhwng y gwledydd cyfoethog a'r gwledydd tlawd, na rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd. Bydd modd i bob plentyn yn y byd fynd i'r ysgol.
Bydd pawb yn dysgu iaith ryngwladol fel bo modd i ni ddeall ein gilydd yn well.
Cyhoeddwyd gan Gynulliad Ysbrydol y Bah�'� yn Warwick. Daw pob dyfyniad o ysgrythurau Bah�'� Published by, and copyright of, the Spiritual Assembly of the Bah�'�s of Warwick. |